ride hiraethog logo Alwen reservoir trail in hiraethog *click for homeclick to contact ride hiraethogclick for questionnaire
*click for mountain biking image
Project Datblygu Mynediad Hiraethog

*

Cadarnhawyd cyllid amcan 1 yn ddiweddar ar gyfer project "twristiaeth werdd" yn ardal Hiraethog, Gogledd Cymru ar ffin Conwy a Sir Ddinbych, a fydd yn gwella cyfleoedd mynediad cefn gwlad i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd.

Mae'r cynllun £150,000 yn cynnwys creu llwybrau cerdded a beicio o amgylch Cronfa Alwed, gyda linc i Lyn Brennig a Choedwig Clocaenog gerllaw. Mae rhan o'r llwybr yn croesi Mynydd Hiraethog, sy'n bwysig am ei bywyd gwyllt a thirwedd hanesyddol.

*
Cronfa Alwen o ochr y lan

Mae datblygu Llwybr Alwen yn broject partneriaeth yn cynnwys y Comisiwn Coedwigaeth, Dwr Cymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Cyngor Sir Ddinbych, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, yr RSPB ac ADC. Mae'r cyrff hyn yn llunio Fforwm Amgylcheddol Gweundir Hiraethog a Dinbych, a ddatblygodd y Strategaeth Amgylcheddol a'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Ardal Hiraethog - mae'r project yn cyflawni hwn yn rhannol.

Mae'r project yn cychwyn ym mis Ebrill 2005 ac fe gaiff ei gwblhau ym mis Mawrth 2007. Rhagwelir y bydd y llwybr yn gyflawn tuag at ddiwedd 2006 a chynhelir digwyddiad i'w lansio.

Am wybodaeth bellach cysylltwch gyda'r swyddog project: elaine.reynolds@conwy.gov.uk

*
* click for about hiraethog
* click for ride hiraethog news
* click for mountain biking routes
* click for mountain biking facilities
search this site

Cartref | Cysylltu â ni | Holiadur | Hiraethog | Newyddion | Y llwybrau | Cyfleusterau
© Cyngor Sir Ddinbych 2005. Ymwadiad
Ebost: info@ridehiraethog.com