ride hiraethog logo mountain biking news and events *click for homeclick to contact ride hiraethogclick for questionnaire
*
Newyddion diweddaraf…

BIKEFAX ARWEINLYFR rhif 2 GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU

BIKEFAX ARWEINLYFR rhif 2 GOGLEDD DDWYRAIN CYMRU

AR GAEL NAWR!

Mae ail arweinlyfr beicio mynydd Bikefax newydd gyrraedd ein swyddfa, wedi cyrraedd o’r argraffydd y BORE’ MA’!! Mae ar gael i chi ar-lein RŴAN neu mewn siopau lleol o fewn yr wythnosau nesaf, arweinlyfr Bikefax, rhif 2 - “Llwybrau beic mynydd gorau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru” - yn cynnig 24 o deithiau wedi eu casglu ar eich cyfer chi gan feicwyr mynydd profiadol, Sue Savege a Tony Griffiths.

Yn ychwanegol ar fersiwn CD-Rom yr arweinlyfr, gan fod galw mawr amdano gennych chi’r defnyddwyr, mae ffeiliau GPS o’r llwybrau y gellir eu llwytho i lawr fel ffeiliau testun i’w defnyddio ar eich GPS (unrhyw fodel cyfoes) yn ogystal â ffeiliau ar gyfer rhaglen TrackLog fydd o ddefnydd i’r rhai ohonoch sydd am gynllunio eich taith ar fap tebyg i rai arolwg ordnans (OS).

Cyswllt: Samantha Forrest, Swyddog Marchnata, Bikefax
Ffôn: 01286 685489
E-bost: marketing@bikefax.com

Rydym eisiau parhau i wella'r wefan. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu os hoffech weld cynnwys rhywbeth arall, cysylltwch â ni. Gobeithiwn wneud beiciohiraethog.com yn un o'r adnoddau beicio mynydd mwyaf gwerthfawr ar y we, a gobeithiwn eich gweld allan yn Hiraethog yn fuan iawn.

*
* click for about hiraethog
* click for ride hiraethog news
* click for mountain biking routes
* click for mountain biking facilities
search this site

Cartref | Cysylltu â ni | Holiadur | Hiraethog | Newyddion | Y llwybrau | Cyfleusterau
© Cyngor Sir Ddinbych 2005. Ymwadiad
Ebost: info@ridehiraethog.com